Yr Heddlu a'r Gymuned

Mae De Cymru yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i astudio yn y DU ac rydym am ei gadw felly. Ynghyd â'r Heddlu yn eich ardal chi, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu cadw'n ddiogel wrth astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Ynghyd â'r cyngor ar y tudalennau hyn, rydym yn argymell llawrlwytho Llyfryn Cyngor i Fyfyrwyr Atal Troseddu Heddlu De Cymru, U-Safe ar gyfer eu holl awgrymiadau.

Heddlu yn eich Ardal chi

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr heddlu yn eich ardal chi ar wefan Heddlu De Cymru os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu Rhondda Cynon Taf, neu ar wefan Heddlu Gwent os ydych chi'n byw yng Nghasnewydd / Gwent.

Casnewydd

Mae Ward Stow Hill Heddlu Gwent yn cwmpasu campws Casnewydd yng Nghanol Dinas Casnewydd.

Caerdydd

Yng Nghaerdydd, mae Heddlu De Cymru wedi enwebu sawl aelod o staff i weithredu fel cyswllt â myfyrwyr.

Trefforest a Glyn-taf

Mae ein campysau yn Nhrefforest a Glyn-taf yn Ward Treforest a Ward Rhydfelen yn y drefn honno.

Myfyrwyr Gwirfoddol

Dewch yn fyfyriwr gwirfoddol gyda Heddlu De Cymru, e-bostiwch [email protected] i ddarganfod mwy.

swp

Rôl Plismona Cymunedol

Rôl plismona cymunedol yw cynorthwyo aelodau cymuned benodol gyda chefnogaeth lawn yr heddlu lleol. Nod yr heddlu yw darparu presenoldeb a gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer pobl sy'n profi problemau gyda throsedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r heddluoedd lleol yn cynnal cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) bob mis. Bydd y cyfarfodydd yn trafod materion lleol y gall y gymuned eu datrys gyda'i gilydd.  Bu diffyg myfyrwyr yn mynychu felly dyma'ch cyfle chi i wneud gwahaniaeth i'ch cymuned!