Mae gan bawb ym Mhrifysgol De Cymru yr hawl i deimlo'n ddiogel ac i gael eu cefnogi. Os ydych yn profi unrhyw fath o reolaeth drwy orfodaeth, trais neu gamdriniaeth neu aflonyddu rhywiol, gallwn gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i chi.
Os yw rhywun mewn perygl dybryd, ffoniwch 999.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais, camdriniaeth, neu amrywiaeth o faterion eraill, gallwch ddefnyddio gwefan Adrodd + Chymorth PDC i roi gwybod amdano.
Gall fod yn anodd sylwi ar arwyddion perthynas nad yw’n iach, yn enwedig os ydych mewn perthynas o’r fath. Mae’n debyg na ddechreuodd y berthynas fel hyn, ond efallai ei bod wedi newid yn raddol dros amser i gynnwys:
Gall treisio a thrais rhywiol ddigwydd o fewn neu y tu allan i berthynas. Mae hyn yn cynnwys rhyw heb gydsyniad unigolyn oherwydd cyffuriau, alcohol neu wrth fod yn anymwybodol. Mae ymosodiad rhywiol yn gyffwrdd nad oes mo’i eisiau sydd o natur rywiol.
Dylid rhoi cydsyniad a gellir ei gymryd yn ôl unrhyw bryd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gydsynio yma.
Mae aflonyddu rhywiol yn golygu ymddygiad rhywiol nad oes mo’i eisiau, a gall gynnwys cyffwrdd, cusanu, ac ymddygiad geiriol a di-eiriau nad oes mo’i eisiau. Gall fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy ddulliau eraill fel stelcian (dilyn unigolyn, eu gwylio, ysbïo arnynt neu orfodi cyswllt gan gynnwys trwy gyfryngau cymdeithasol).
Mae cod ymddygiad myfyrwyr y Brifysgol yn diffinio camymddwyn rhywiol fel unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso a gyflawnir heb ganiatâd, trwy rym, ofni neu orfodaeth. Mae’n cynnwys treisio, ymgais i dreisio, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol, dinoethi anweddus, cam-drin rhywiol ar sail delwedd neu’r hyn a elwir yn “Bornograffi Dial”, a stelcian. Mae’n cynnwys camymddwyn rhywiol ar-lein, megis blacmel rhywiol, sef pan fydd rhywun yn bygwth rhannu eich cynnwys preifat a rhywiol ar-lein oni bai eich bod yn bodloni eu gofynion.
Yn ôl adroddiad Revolt Sexual Violence at University:
Mae bob achos o ymosod ac aflonyddu yn ddifrifol ac yn haeddu cael eu hadrodd. Cofiwch, os nad ydych wedi dewis cymryd rhan mewn gweithred rywiol, nid ydych wedi cydsynio.
Mae pawb yn ymateb yn wahanol i brofiad rhywiol sydd ddim yn gydsyniol, nid oes ffordd gywir nac anghywir o ymateb. Mae gwella ac ymdopi yn broses wahanol i bawb ond nid yw byth yn rhy hwyr i ofyn am gymorth.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais, camdriniaeth, neu amrywiaeth o faterion eraill, gallwch ddefnyddio gwefan Adrodd + Chymorth PDC i roi gwybod amdano.
Gallwch ddefnyddio Adrodd + Chymorth yn gwbl ddienw.
Yn yr achos hwn byddwch yn cael eich cyfeirio at gefnogaeth. Ni fyddwn (yn gallu) cysylltu â chi yn uniongyrchol i gynnig cymorth, oherwydd ni fyddwn yn gwybod pwy ydych chi.
Byddwn yn defnyddio'r adroddiadau dienw i edrych ar dueddiadau yn PDC, ar y campws ac oddi arno. Mae'r data hwn yn helpu PDC i addysgu myfyrwyr a gwella cymorth.
Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad, bydd rhywun o'n tîm sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn cysylltu â chi i gynnig cymorth.
I ddechrau byddant yn cynnig apwyntiad i chi lle byddant yn gwrando yn gyntaf ac yna'n esbonio'r opsiynau gwahanol. Gallant roi cymorth emosiynol a/neu ymarferol, gan gynnwys os yw'r unigolyn yn byw neu'n astudio gyda chi. Gallant ddweud wrthych am wasanaethau arbenigol a gallant eich cyfeirio atynt os dymunwch.
Mae gwefan Llesiant Meddyliol PDC yn cynnig amrywiaeth o gymorth a gall eich arwain at ystod eang o gymorth y tu allan i PDC yn yr Hyb Helpu Eich Hun.
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Iechyd PDC os oes gennych anaf rydych angen cymorth ag ef, ac am help a chyngor ar feichiogrwydd, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol neu faterion iechyd eraill.
I gael cymorth o fath gwahanol, cysylltwch â Chaplaniaeth PDC. Beth bynnag fo'ch rhywioldeb, rhyw, hil, oedran, gallu, diwylliant neu gred, maen nhw bob amser yn groesawgar ac yn ystyriol.
Mae Undeb y Myfyrwyr Prifysgol De Cymru hefyd yn cynnig cymorth annibynnol i fyfyrwyr y Brifysgol.
Mae PDC yn rhoi mynediad am ddim i bob myfyriwr at ap SafeZone, lle gallwch gysylltu ag Adran Ddiogelwch y Brifysgol yn uniongyrchol drwy rannu eich lleoliad a chyfathrebu'n gyflym drwy neges destun. Os ydych chi'n teimlo'n anniogel yn unrhyw le ar y campws, gallwch ddefnyddio'r ap SafeZone i roi gwybod am hyn a cheisio cymorth ar unwaith. Bydd hefyd yn dangos i chi ble rydych chi ar y campws mewn amrywiaeth o fformatau.
Byw Heb Ofn – gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyngor a chymorth arbenigol i’r holl oroeswyr, dioddefwyr, gweithwyr proffesiynol, ac eraill sy’n pryderu, ynghylch pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys treisio, aflonyddu rhywiol, a stelcian. Llinell gymorth y tu allan i oriau 0808 80 10 800 neu e-bostiwch [email protected].
Llinell Gynghori i Ddynion– yn rhoi cyngor a chymorth i ddynion sy’n dioddef trais domestig a chamdriniaeth 0808 801 0327.
Galop - llinell gymorth cam-drin domestig LHDT+ genedlaethol. Ffoniwch 0800 999 5428 neu e-bostiwch [email protected].
Bawso - yn darparu cymorth i unigolion a chymunedau lleiafrifoedd ethnig du yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gan gamdriniaeth, trais a chamfanteisio.
Llwybrau Newydd - elusen Gymreig sy’n darparu cymorth i’r rhai sydd wedI’u heffeithio gan dreisio, cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol.
Cymorth i Ddioddefwyr - yn gallu helpu unrhyw un wedi’u heffeithio gan drosedd, p'un a yw'n penderfynu ei riportio ai peidio. Ffoniwch nhw ar 0808 16 89 111.