Deall Cydsynio

Mae cydsynio yn digwydd pan fydd y sawl sy'n ymgymryd ag unrhyw fath o weithgaredd rhywiol yn cytuno i gymryd rhan o’u gwirfodd. Mae angen iddynt hefyd feddu ar y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw. Dysgwch fwy am yr hyn y mae ‘rhyddid’ a ‘gallu’ yn golygu yng nghyd-destun cydsynio.

Nid oes gan rywun y rhyddid na'r gallu i gytuno i weithgaredd rhywiol o’u gwirfodd os: 

  • Maent yn cysgu neu'n anymwybodol
  • Ydynt wedi yfed gormod neu wedi cymryd gormod o gyffuriau, neu wedi cael eu ‘sbeicio’
  • Ydynt o dan bwysau, yn cael eu cam-drin, yn cael eu twyllo neu eu hofni i ddweud 'ie'
  • Ydy’r person arall yn defnyddio grym corfforol yn ei erbyn

Cofiwch, fodd bynnag, mai ambell enghraifft o ddiffyg cydsynio yn unig geir uchod. 

Ffordd arall o feddwl am gydsynio yw rhywun yn dweud ‘ie’ dim ond pan fyddant yn WIRIONEDDOL golygu ‘Ie’, nid oherwydd eu bod yn teimlo rheidrwydd i wneud neu nad ydynt yn deall yr hyn y maent yn cytuno i’w wneud. Gelwir hyn yn ‘gydsyniad brwdfrydig’. Trwy gyfathrebu â'ch partner, trafod yr hyn yr hoffech eich dau ei wneud, gallwch sicrhau cydsynio.

Os nad ydych yn deal cydsynio, neu’r hyn a ystyrir yn anghydsyniol, gwyliwch Heddlu Thames Valley yn esbonio cydsynio yn y fideo byr hwn.


Cyfathrebu Cydsyniad

Nid oes rhaid i gydsynio amharu ar ryw. Mae’n golygu talu sylw i weithredoedd, geiriau a synau eich partner bob tro y byddwch yn cael rhyw a thrwy gydol pob cyfathrach rywiol.

Yn ôl Brook, dylech gymryd eiliad i:

  • Ofyn i'ch partner os mai gweithgaredd rhywiol yw'r hyn y maent ei eisiau ac os yw'n teimlo'n dda.
  • Wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud.
  • Ddarllen iaith corff eich partner.

Dyma ambell enghraifft o’r mathau o gwestiynau y gallech eu gofyn i’ch partner er mwyn darganfod beth yr hyn y maent ei eisiau a sut y maent yn teimlo.

  • Beth hoffe ti i ddigwydd nesaf?
  • Sut wyt ti? Wyt ti eisiau parhau?
  • Ffansi mynd ar y top?
  • Hoffwn i drio ___, beth wyt ti’n ei feddwl?
  • Rwyt ti’n ymddangos yn flinedig, wyt ti eisiau gorffwys/stopio?• Ffansi mynd ar y top?
  • Hoffwn i drio ___, beth wyt ti’n ei feddwl?
  • Rwyt ti’n ymddangos yn flinedig, wyt ti eisiau gorffwys/stopio?

Nid yw absenoldeb ‘na’ yn golygu bod rhywun wedi cydsynio. Weithiau mae ‘na’ yn anodd ei ddweud. Cymrwch sylw o'ch partner a sylwch ar yr hyn y gallai fod yn ceisio'i ddweud heb eiriau. Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch ddwywaith a pharhewch i gyfathrebu. Peidiwch â chymryd unrhyw beth yn ganiataol! 

Gallai cydsynio fod ar ffurf rhywun yn dweud: 

  • Mae hynny’n teimlo'n dda
  • Rwy’n hoffi hwnna
  • Gwna hynny eto
  • Gwna hynny fel hyn
  • Cyffwrdd â fi yma 

Gallai diffyg cydsynio fod ar ffurf rhywun yn dweud: 

  • Dydw i ddim yn yr hwyliau
  • Efallai wedyn
  • Ewch oddi arna i
  • Dw i wedi blino
  • Ddim nawr 

DWEUD NA 

Cofiwch, os ydych yn dweud ‘na’, neu os bydd rhywun arall yn dweud ‘na’, boed hynny drwy eiriau neu drwy ddulliau di-eiriau, rhaid i chi barchu eu dymuniadau ar unwaith, a rhaid iddynt barchu eich dymuniadau chi.

Mae angen talu sylw at gyfathrebu di-eiriau.

Gallai ciwiau ar gyfer caniatâd edrych/deimlo fel:

  • Edrych arnat ti, gwenu a nodio
  • Bod wedi ymlacio a bod yn hapus
  • Bod yn frwdfrydig ac ymatebol
  • Eich cusanu yn ôl a'ch cyffwrdd
  • Ymateb i chi gyda'u corff

Efallai y bydd yr arwyddion hyn yn dangos caniatâd yn yr achos yna, ond cofiwch: mae angen ceisio caniatâd bob tro y byddwch yn cael rhyw a thrwy gydol pob gweithred rywiol, gan gynnwys pan fyddwch am roi cynnig ar weithgaredd newydd.

Gallai diffyg caniatâd edrych/deimlo fel:

  • Dim cyswllt llygad
  • Crio
  • Mynegiant wyneb wedi'i rewi neu'n ofnus
  • Crynu
  • Pasio allan
  • Siarad yn aneglur
  • Cysgu
  • Dryswch
  • Corff anhyblyg neu dynn
  • Tawelwch neu lonyddwch
  • Gwingo
  • Gwrthiant

Stopiwch unrhyw weithgaredd rhywiol ar unwaith os sylwch unrhyw un o'r arwyddion hyn.

Rhoi cydsyniad

Mae mabwysiadu cydsynio da yn golygu ystyried eich teimladau, emosiynau a'ch corff eich hun.

  • Meddwl: beth ydw i'n ei feddwl?
  • Emosiynol: sut ydw i'n teimlo?
  • Corfforol: sut mae fy nghorff yn ymateb?

Cofiwch:

Er bod ein cyrff yn rhoi arwyddion i ni, mae angen i ni ystyried ein meddyliau a'n hemosiynau hefyd. Nid yw'r ffaith bod eich corff yn ymateb mewn ffordd benodol yn golygu bod yn rhaid i chi gael rhyw os nad ydych chi eisiau.

Tynnu cydsyniad yn ôl 

Mae gennych yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd a, phan fyddwch yn gwneud hynny, dylai eich partner(iaid) barchu eich dymuniadau ar unwaith a hynny heb eich cwestiynu. Nid yw’r ffaith eich bod wedi cydsynio i un peth yn golygu eich bod wedi cydsynio i rywbeth arall, ac mae’n hollol iawn dweud ‘na’ neu stopio ar unrhyw adeg os nad ydych am barhau. 

Nid oes rhaid i chi esbonio i’ch partner(iaid) pam eich bod wedi tynnu cydsyniad yn ôl os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. A gallwch roi cydsyniad eto os bydd eich teimladau'n newid a'ch bod am barhau.

Cydsyniad (Cwrs Byr)

Myfyrwyr Diogel