Byddwch yn Wyliwr Grymus

Gwyliwr yw rhywun sy'n dyst i ddigwyddiad. Yn yr achos hwn, mae gwyliwr grymus yn rhywun sy'n dewis cymryd camau i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol mewn ffyrdd sy'n effeithio'n gadarnhaol ar y canlyniad.

Pam dewis bod yn wyliwr grymus?

Pan fyddwch chi'n ymyrryd fel gwyliwr grymus gallwch chi helpu i greu newid trwy atgyfnerthu gwerthoedd ac ymddygiadau cadarnhaol. Yn bwysig, gallwch chi hefyd roi cymorth i'r rhai sy'n profi'r ymddygiad sydd â'r potensial i achosi niwed. Gallwch chi:

  • Atal digwyddiadau rhag digwydd trwy ymyrryd cyn i sefyllfa godi
  • Atal digwyddiadau rhag gwaethygu trwy eu hatal wrth iddynt ddigwydd
  • Cynnig cymorth i ddioddefwyr ar ôl y digwyddiad i wneud yn siŵr eu bod yn iawn
  • Ysbrydoli’r rhai sy'n dyst i'ch ymyriad i ymyrryd yn effeithiol yn y dyfodol
  • Helpu i greu diwylliant lle na oddefir cam-drin, ymddygiad annerbyniol a niweidiol

Pwy all fod yn wyliwr grymus?

Gall unrhyw un ddod yn wyliwr grymus! Nid oes rhaid i weithredu fel gwyliwr grymus olygu ymyrryd yn uniongyrchol neu ar yr adeg pan fyddwch yn gweld ymddygiad annerbyniol gan eraill. Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi weithredu fel gwyliwr grymus ac yn aml mae’n bosibl gwneud ymyriadau diogel, anfygythiol, nad ydyn nhw’n peryglu diogelwch personol.

Sut gallaf ymyrryd yn ddiogel fel gwyliwr grymus?

Er mwyn dod yn wyliwr grymus mewn unrhyw sefyllfa rhaid i chi yn gyntaf ddod yn ymwybodol o broblem a chydnabod yr effaith negyddol y mae'n ei chael ar rywun. Nid yn unig mae angen i chi gydnabod y sefyllfa fel un sydd â'r potensial i achosi niwed, ond mae angen i chi adnabod eich rhwystrau eich hun a all atal ymyrraeth. Er enghraifft, a yw'r sefyllfa yr ydych yn dyst iddi braidd yn amwys? Ydych chi'n siŵr bod yna botensial ar gyfer niwed? A yw pobl eraill yn ymyrryd? Ai eich lle chi yw ymyrryd? Ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus a medrus i ymyrryd?

Cofiwch:

  • Os ydych chi'n teimlo'n anghyfforddus â sefyllfa, ond nad ydych chi'n siŵr a yw'n debygol o achosi niwed, rydych chi'n dal yn gallu ymyrryd fel rhagofal.
  • Nid oes angen i chi aros i rywun ofyn am help cyn ymyrryd; cofiwch y gallai'r person yr effeithir arno deimlo'n rhy ddi-rym i ofyn am help.
  • Mewn sefyllfa grŵp efallai y byddwch yn teimlo y bydd rhywun arall yn ymyrryd. Fodd bynnag, mae’n syndod, po fwyaf o bobl sy’n bresennol i weld ymddygiad annerbyniol neu niweidiol, y lleiaf yw’r tebygolrwydd y bydd gwyliwr yn ymyrryd yn effeithiol. Peidiwch â disgwyl y bydd rhywun arall yn ymyrryd, oherwydd efallai nad yw hyn yn wir.

Cyn ymyrryd, mae'n hanfodol eich bod yn cynnal asesiad risg o'r sefyllfa er mwyn ymyrryd yn ddiogel. Ystyriwch a allwch ymyrryd mewn ffordd ddiogel, a allwch wneud hynny mewn grŵp a sut y gallech ofalu am y dioddefwr. Ymyrryd o bell a chydag eraill yw'r opsiwn mwyaf diogel. Os ydych yn ymyrryd yn agos ac ar eich pen eich hun, dylech ystyried a fydd hyn yn effeithio ar eich diogelwch personol. Ni ddylech byth roi eich hun mewn perygl.

Sut alla i ymyrryd?

O ran ymyrryd, mae yna wahanol dechnegau y gallwch chi ddewis ohonynt. Mae’r technegau hyn yn fathau dilys o ymyrraeth, a gall eich asesiad risg o’r sefyllfa eich helpu i wneud penderfyniad mwy gwybodus ar ba dechneg ymyrryd sydd fwyaf priodol ar unrhyw adeg benodol.

Cofiwch y 4 math o weithredu – uniongyrchol, tynnu sylw, dirprwyo, oedi .

  • Gweithredu uniongyrchol

Gallwch gamu i mewn, mewn modd parchus, a herio ymddygiad a allai fod yn niweidiol pan fyddwch yn dyst iddo.

  • Tynnu sylw

Gallwch greu dargyfeiriad i dorri ar draws y sefyllfa.

  • Dirprwyo

Gallwch rybuddio neu gysylltu â rhywun sydd â mwy o awdurdod neu wybodaeth arbenigol i weithredu

  • Oedi

Ni ddylech weithredu ar unwaith os bydd hyn yn eich rhoi mewn perygl posibl. Ond cofiwch, nid yw byth yn rhy hwyr i weithredu. Siaradwch â'r person yr effeithir arno ar ôl i'r sefyllfa ddod i ben i ofyn a yw'n iawn. Neu riportiwch y digwyddiad pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad

  • Mewn sefyllfa o argyfwng, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.
  • Os nad oes perygl neu fygythiad uniongyrchol, gallwch riportio trosedd drwy ffonio 101.

Senarios ymyrraeth gan wyliwr grymus