Dylech flaenoriaethu’ch diogelwch eich hun, a thra bod y brifysgol yn le diogel ar y cyfan, mae’n bosib y bydd sefyllfaoedd lle na fyddwch yn sicr sut i ymddwyn neu’r hyn a ddisgwylir gennych. Mae'r tudalennau isod yn mynd i’r afael ag ambell i gyd-destun lle y gall myfyrwyr ddod ar draws sefyllfaoedd anodd. Ceir gyngor ar sut i ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am berthynas PDC â'r heddluoedd lleol a sut y gallant eich cefnogi pe byddech mewn sefyllfa anniogel.
Efallai mai'r Brifysgol yw'r tro cyntaf i chi gael parti neu efallai eich bod wedi cael profiadau blaenorol gartref, yn y naill achos neu'r llall mae'n hawdd iawn mynd i drafferthion o dan yr amgylchiadau anghywir. Darganfyddwch fwy am sut y gallwch chi barti'n ddiogel.
P'un a ydych wedi cael rhyw o'r blaen neu'n ystyried cael rhyw am y tro cyntaf, mae'n bwysig gwybod sut y gallwch chi gadw'ch hun a'ch partner yn ddiogel. Edrychwch ar wybodaeth Gwasanaeth Iechyd PDC ar Les Rhywiol.
Mae PDC yn gweithio'n agos gyda'n heddluoedd lleol i sicrhau diogelwch myfyrwyr PDC. Dysgwch fwy am ba heddlu sy'n gofalu am eich campws a sut y gallwch ymgysylltu â'r heddlu tra yn y brifysgol.
Dysgwch fwy am hanfodion cydsynio fel y gallwch sicrhau bod eich partner(iaid) yn cydsynio'n frwd i gyfathrach rywiol.
Dysgwch fwy am yr hyn y mae ymosodiad rhywiol yn ei olygu a sut i riportio neu geisio cymorth os oes rhywun wedi ymosod arnoch.