Mae Cydsyniad yn digwydd pan fydd pawb sy'n ymwneud ag unrhyw fath o weithgaredd rhywiol yn cytuno i gymryd rhan trwy ddewis. Mae angen iddynt hefyd gael y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.Nid oes gan rywun y rhyddid a'r gallu i gytuno i weithgaredd rhywiol trwy ddewis os ydynt:• Yn cysgu neu'n anymwybodol• Yn analluog o ganlyniad i alcohol neu gyffuriau, neu wedi cael eu ‘sbeicio’• Dan bwysau, yn cael eu dylanwadu, eu twyllo neu eu dychryn i ddweud 'ie'• Mae'r person arall yn defnyddio grym corfforol yn eu herbynCofiwch, fodd bynnag, dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o’r hyn nad yw’n gydsyniad.Os nad ydych yn deall cydsyniad, neu pa weithredoedd y gellir eu hystyried yn anghydsyniol, gwyliwch Heddlu Dyffryn Tafwys yn egluro cydsyniad yn y fideo byr hwn.
Mae 'ymosodiad rhywiol' yn derm sy'n ymdrin ag amrywiaeth o droseddau. Mae'r ymadrodd yn ymdrin ag unrhyw gyffyrddiad diangen (fel gropio neu gusanu), ynghyd ag ymosodiadau difrifol iawn fel treisio.Yn ôl adroddiad Revolt Sexual Violence at University:• Gropio a chyffwrdd digroeso/diangen mewn modd rhywiol yw'r math mwyaf cyffredin o ymosodiad rhywiol.• Gwnaethpwyd i 39% o'r myfyrwyr yr ymosodwyd arnynt yn rhywiol neu y cawsant eu haflonyddu deimlo'n gyfrifol am y digwyddiadau.• Dim ond 6% o'r myfyrwyr a adroddodd y digwyddiad wrth yr heddlu neu eu prifysgol.• Dywedodd y rhai na wnaethant adrodd am y troseddau rhywiol i'w prifysgol na wnaethant hynny oherwydd: nid oeddent yn credu ei fod yn ddigon difrifol (56%), roeddent yn teimlo gormod o gywilydd (35%), nid oeddent yn gwybod sut i lunio adroddiad (29%).Mae unrhyw ddigwyddiadau o ymosod ac aflonyddu yn ddifrifol ac yn werth eu hadrodd. Cofiwch, os nad eich dewis chi ydyw, nid ydych wedi rhoi cydsyniad.
Mae cod ymddygiad myfyrwyr y Brifysgol yn diffinio camymddwyn rhywiol fel unrhyw ymddygiad digroeso o natur rywiol a gyflawnir heb gydsyniad, trwy rym, bygwth neu orfodaeth. Mae'n cynnwys treisio, ceisio treisio, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol, amlygiad anweddus, cam-drin rhywiol ar sail delwedd neu “Pornograffi Dial” fel y'i gelwir, a stelcio. Mae'n cynnwys camymddwyn rhywiol ar-lein, megis sextortion pan fydd rhywun yn bygwth rhannu eich cynnwys preifat a rhywiol ar-lein oni bai eich bod yn cwrdd â'u gofynion.
Os ydych yn wynebu risg uniongyrchol, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 neu ffoniwch y Llinell Gymorth Live Fear Free 0808 8010 800.Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi profi ymosodiad rhywiol neu aflonyddu, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi roi gwybod i'r heddlu amdano.Efallai y byddai'n well gennych adrodd trwy'r Brifysgol. Ystyrir digwyddiad, fel ymosodiad neu aflonyddu, yn gamymddwyn ac mae'n torri'r Cod Ymddygiad Myfyrwyr, y mae pob myfyriwr yn cytuno iddo wrth ymuno â'r Brifysgol. I adrodd am ddigwyddiad, dylech lenwi'r ffurflen hon:- Cam 2 Ffurflen Honiad Camymddwyn Myfyrwyr CYMRAEG/SAESNEGMae canllawiau ar sut i lenwi'r ffurflen hon ar gael:- Canllawiau CYMRAEG/SAESNEGAr ôl ei chwblhau, dylid anfon y ffurflen hon ac unrhyw dystiolaeth ategol at Gwaith Achos Myfyrwyr yn [email protected]Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch adrodd, cysylltwch â'r tîm gwaith achos myfyrwyr.
Mae Gwasanaeth Lles y Brifysgol yn darparu lle i drafod digwyddiadau o niwed yn ddiogel a gallant eich cyfeirio at gymorth arbenigol.
Mae pawb yn ymateb yn wahanol i brofiad rhywiol anghydsyniol, nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir i ymateb. Mae gwella ac ymdopi yn edrych yn wahanol i bawb ond nid yw hi byth yn rhy hwyr i ofyn am gefnogaeth:
Live Fear Free Helpline – 0808 8010 800